Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
28 Chwefror 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ ar ôl Cwestiwn 2.
(15 munud)
(0 munud)
Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
(5 munud)
(60 munud)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Lywodraethiant yn y DU ar
ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2018.
(60 munud)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.
ITV Cymru - Leak inquiry clears First Minister - 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)
Wales Online - Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster and our town halls - 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
(30 munud)
NDM6669 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd
democratiaeth hyfyw yng Nghymru;
2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau
darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa
ariannol ansicr bresennol;
3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg
a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith
cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio
ymhellach;
4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn
natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a
Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o
gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys;
5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli
cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru;
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn blwyddyn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu Pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.
Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i hyfywedd datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd.
Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma.
(30 munud)
NDM6670 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig o undeb tollau presennol yr UE, yn hytrach nag undeb tollau newydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol]
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE.
(0 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Mawrth
2018